Read in English
Cyrraedd yn y car:
Saif Fferm Denmark 4 milltir o Lanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion (Cyfeirnod Grid SN586537). Os ydych chi’n teithio o Lambed ar yr A485, cadwch lygad am ein harwydd brown a chymryd y troad i’r chwith (ar ôl pont garreg). Daliwch ymlaen am 2 filltir ac fe welwch chi Fferm Denmark ar yr ochr chwith (cadwch lygad am y drych bacio ar yr ochr dde, gyferbyn â phen ein lôn).
Neu, os ydych chi’n dod o’r Gogledd ar yr A485, ym mhentre Betws Bledrws, trowch i’r dde gyferbyn â’r capel a’r blwch ffôn. Gyrrwch i fyny’r rhiw ac ar hyd y ffordd wastad nes cyrraedd cyffordd T. Cymerwch y troad i’r dde wrth y gyffordd yma a saif Fferm Denmark 30 metr i ffwrdd ar yr ochr chwith.
Cadwch lygad am y drych bacio gyferbyn â’n lôn a’r arwydd pren ‘Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark’ sydd wrth fynedfa’r lôn. Gair o rybudd: yn aml bydd Sat Nav yn mynd â gyrwyr filltir neu ddwy heibio i’n safle, felly mae’n bwysig i chi gymryd sylw o’r cyfarwyddiadau hyn.
Denmark Farm Conservation Centre on What3Words is: grouping.reefs.gradually
Cyrraedd gyda thrafnidiaeth gyhoeddus:
Am wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ewch at www.traveline-cymru.info
Y gorsafoedd trenau agosaf yw Caerfyrddin (25 milltir i’r de) ac Aberystwyth (25 milltir i’r gogledd-orllewin), gyda bysiau cysylltiol i Lanbedr Pont Steffan.
Mae Bysiau Lleol (Gwasanaeth 588/688) o Lambed i Aberystwyth yn stopio ym Metws Bledrws. O fanno mae 1.2 milltir o waith cerdded i fyny’r rhiw i Fferm Denmark (dilynwch yr arwydd gwyn gyferbyn â’r eglwys). Mae’r gwasanaeth Bwcabus newydd yn cysylltu â gwasanaethau bysiau eraill ac yn gallu darparu cludiant i ben draw lôn y fferm. Rhaid i chi gofrestru gyda Bwcabus yn gyntaf a rhagarchebu’ch siwrnai. Dim ond o ddydd Llun tan ddydd Sadwrn y bydd bysiau’n rhedeg a ddim ar ddydd Sul na gwyliau’r banc.
I archebu tacsi, ffoniwch Nick H: 07940 588809 neu 07507 760132
Neu beth am holi a oes rhywun arall yn mynd yr un ffordd â chi drwy gofrestru ar gyfer cynllun rhannu ceir.
Rhowch gynnig ar www.carsharewales.com
Oriau agor:
Mae’r llwybrau yn Fferm Denmark yn agored yn ddyddiol o godiad yr haul tan y machlud drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Noswyl y Nadolig.
Taliadau mynediad:
Mae mynediad am ddim, yr oll rydyn ni’n gofyn amdano yw cyfraniad tuag at gynnal a chadw ein safle er eich difyrrwch a’r bywyd gwyllt. Gadewch eich cyfraniad yn y blwch gonestrwydd yn y Lloches Groeso – diolch.
Cyfleusterau:
Ceir taflenni am y llwybrau, mapiau o’r safleoedd, bwrdd cofnodi bywyd gwyllt a hysbysfwrdd yn y Lloches Groeso yn y maes parcio.
Cadwch lygad am ein gwybodfa sain glocwedd ddwyieithog ger pwll y fferm.
Bydd y llwybr hiraf yn cymryd tuag awr neu ragor, ond mae llwybr byrrach hefyd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.
Mae amrywiaeth o lety hefyd ar gael os ydych am aros gyda ni, o’n Eco-wersyllfa i’n hystafelloedd cysgu cymharol rad a llety gwyliau 4 seren yn ein Eco-lodj hunanddarpar.
Y Siop Fach Werdd:
Yn ystod oriau’r swyddfa yn yr wythnos, galwch heibio i’r Siop Fach Werdd yn yr adeilad isaf. Rydyn ni’n gwerthu dewis eang o gelf a chrefftau lleol, crysau T, mygiau, sebon, cardiau ac anrhegion, llawlyfrau a chyhoeddiadau bywyd gwyllt.
Beth sydd i’w weld:
Bydd y llwybrau hunandywysedig yn mynd â chi drwy wahanol gynefinoedd gan adael i chi brofi’r amrywiaeth ryfedda o fywyd gwyllt o gwmpas ein safle 40 erw.
Beth am ymweld â lloches y tŷ crwn yn y coed, neu un o’n hadeiladau pren hardd fel y lloches ar lan y llyn neu ddeildy’r ardd. Mae pob un wedi’i wneud gan ddefnyddio dulliau traddodiadol a deunyddiau o ffynonellau cynaliadwy lle bynnag bo’n bosibl a chyda chymorth gwirfoddolwyr.
Y lloches ar lan y llyn yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm Denmark
Hefyd mae gynnon ni amryw o syniadau i ddenu bywyd gwyllt i’ch gardd, o flychau nythu a phwll casgen yn yr ardd bywyd gwyllt i forderi gloӱnnod byw a gwenyn sy’n llawn persawr a lliw, i’n gwesty pryfed ein hunain (pe gallai pryfetach ddyfarnu gwobr am adeiladau, hwn fyddai’n ei chipio!)
Ceir hefyd lawer o nodweddion cynaliadwy eraill i’w darganfod sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt.
Cŵn:
Mae croeso i gŵn ar y llwybrau o gwmpas Fferm Denmark ond rhaid iddynt gael eu cadw ar dennyn drwy’r amser. Rhaid codi unrhyw faw ci a chael gwared ag o mewn bagiau bioddiraddiadwy yn y côn gwyrdd yn yr ardd bywyd gwyllt (gallwn ddarparu bagiau bioddiraddiadwy yn y Siop Fach Werdd os oes angen rhai arnoch chi).