Diolch i gyllid gan CAVO, edrychwn ymlaen at gynnal y prosiect byr, ‘Gwneud i Gadwraeth Gyfrif’, er mwyn helpu pobl i wella eu sgiliau mathemateg trwy weithgareddau ymarferol.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys creu gwelyau uchel ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau yn ogystal â gwneud bocsys nythu bywyd gwyllt. Bydd help ar gael gan diwtor profiadol i alluogi pawb i gymryd rhan.
Er mai prosiect bach yw hwn, rydyn ni’n cynnig sesiynau gwirfoddoli rheolaidd os hoffech chi barhau i fod yn rhan o’r tîm o wirfoddolwyr cadwraeth neu arddio ar Fferm Denmark.
Mae’r sesiynau wedi’u hanelu at oedolion 19 oed a throsodd sydd heb gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg neu gyfwerth (TGAU gradd C neu gyfwerth), ond mae’r sesiynau’n agored i bawb.
Diolch i CAVO, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, Cyngor Sir Ceredigion a Thyfu Canolbarth Cymru.
Ymunwch â ni i adeiladu gwely llysiau uchel:
21 Hydref 2024, 10:00-15:00
26 Hydref 2024, 10:00-15:00
10 Tachwedd 2024, 10:00-15:00
23 Tachwedd 2024, 10:00-15:00
Ymunwch â ni i adeiladu bocsys bywyd gwyllt:
7 Tachwedd 2024, 10:00-15:00
13 Tachwedd 2024, 10:00-15:00
Rhowch wybod i ni’ch bod chi’n dod, drwy e-bost neu ar y ffôn.
Anfonwch e-bost at volunteer@denmarkfarm.org.uk, neu ffonio 01570 493358.
Angen mwy o wybodaeth?
e-bost at volunteer@denmarkfarm.org.uk, neu ffonio 01570 493358.
Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU trwy’r Gronfa Ffyniant Bro.