Mae Cysylltiadau Coetiroedd Fferm Denmark wedi cael cymorth gan gynllun y Grant Buddsodd mewn Coetir (TWIG). Caiff ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.
Dyfarnwyd grant o £92,600 i helpu elusen Ymddiriedolaeth Shared Earth i gwblhau llwybr cylchol pob tymor, gosod seilwaith a dehongliad, a threfnu digwyddiadau a fydd yn galluogi pawb i fwynhau’r warchodfa natur arbennig.
Left: Ryan our Volunteer & Nature Reserve Manager constructing new all season trails into the woodland.Right: Local regular visitors, Rachel and Trevor the dog, enjoying an adventure in the woodland.
Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark yn enghraifft unigryw o gynefin wedi’i adfer, ac mae ymhlith y cyntaf o’i math yn y DU. Heb y cymorth hwn gan TWIG, mae’r coetir yn wynebu risg yn sgil effeithiau’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth, yn ogystal â’r datgysylltiad rhwng pobl a natur. Mae’r prosiect hwn hefyd yn golygu y bydd Fferm Denmark yn mynd ymlaen i fod yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru yn y dyfodol.
Bydd prosiect Cysylltiadau Coetiroedd Fferm Denmark, a ariennir gan TWIG, yn galluogi i welliannau mawr gael eu gwneud i’r mynediad, gyda gatiau ac arwyddion newydd yn cael eu gosod o amgylch y safle.
Bydd pobl leol, grwpiau cymunedol ac ysgolion yn gallu cymryd rhan yn y prosiect trwy gyfleoedd i wirfoddoli, diwrnodau agored, a digwyddiadau cyhoeddus, gan alluogi mwy fyth o bobl i fwynhau a chwarae rhan yn nhreftadaeth naturiol Ceredigion.
Bydd Canllaw i Gadwraeth Coetiroedd, sy’n seiliedig ar dros 30 mlynedd o ddysgu ar Fferm Denmark, yn cael ei gyhoeddi yn rhan o’r prosiect. Byddwn hefyd yn datblygu cynllun rheoli coetir manwl i sicrhau cynaliadwyedd yr adnodd pwysig hwn ar gyfer y dyfodol.
Yn yr hirdymor, bydd y prosiect yn datblygu sgiliau gwirfoddolwyr, yn cryfhau’r rhwydwaith o grwpiau a sefydliadau sy’n cydweithio er budd natur, ac yn meithrin ymwybyddiaeth gyhoeddus o bwysigrwydd gofalu am ein byd naturiol.
Photo: Volunteer & Nature Reserve Manager, Ryan Knight-Fox, teaching local school children about Trees
Dywedodd Ryan Knight-Fox, Rheolwr Gwirfoddolwyr Fferm Denmark:
“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael y grant hwn. Diolch i’r cymorth gan Lywodraeth Cymru trwy’r cynllun TWIG, gallwn ‘nawr sicrhau bod Fferm Denmark yn lle y gall pawb ddod iddo a mwynhau natur. Bydd y prosiect hwn yn galluogi pawb i gael mynediad at y coetir ni waeth beth yw eu symudedd, yn ogystal â theuluoedd â phlant ifanc. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddatblygu cynllun rheoli a gweithio i reoli’r coetir gyda’n gwirfoddolwyr anhygoel, gan agor llennyrch a rhodfeydd i wella bioamrywiaeth.”
Mae ‘Cysylltiadau Coetiroedd’ yn brosiect flynedd, sy’n rhedeg o Orffennaf 2024 i Fehefin 2026.
Ein digwyddiadau cyffrous cyntaf fydd Diwrnodau Cadwraeth i Wirfoddolwyr ar 4 ac 16 Awst, a hefyd 4, 18 a 28 Medi. At hynny, byddwn yn trefnu gweithdy Adnabod Coed yn yr Hydref ar 14 Medi.
I gymryd rhan fel gwirfoddolwr neu ddod i ddarganfod y cyfoeth o blanhigion ac anifeiliaid sydd ar Fferm Denmark, ewch i: www.denmarkfarm.org.uk
Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.