Conservation Centre with Eco-friendly Holidays, Campsite, Nature Trails & Courses in West Wales

Subscribe to our blogroll

Diwrnodau Cadwraeth i Wirfoddolwyr

 
Mae croeso i bawb ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau gwirfoddoli drwy gydol y
flwyddyn – ofeithrin eich sgiliau, i helpu i gynnal y gwahanol gynefinoedd a
bioamrywiaeth gyfoethog yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm Denmark.
 
 
Drwy wirfoddoli gyda ni byddwch yn helpu i reoli ein gwarchodfa natur 40 erw
unigrywy gall pawb wedyn ei mwynhau. Felly beth am ymuno â ni ar un o’n
diwrnodau gwirfoddoli lle byddwch yn cwrdd â phobl o’r un anian, dysgu sgiliau
newydd a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ar gyfer bywyd gwyllt.
 
 
————————————————————————————————————————–
 
Mae’r tasgau’n amrywio yn ôl y tymor a gallant gynnwys rheoli coetiroedd, clirio
mieri, tocio llwyni a choed, edrych ar flychau adar a phathewod am arwyddion o
ddifrod, cynnal a chadw llwybrau gan gynnwys llwybrau pren – ac amryw o
jobsys eraill o gwmpas y safle 40 erw.
 
     
 
Rydyn ni’n hoffi rhoi’n ôl i’n gwirfoddolwyr gan eu bod yn allweddol i reoli Fferm
Denmark er budd y bywyd gwylltFelly, drwy gydol y flwyddyn byddwn yn cynnig
ychydig o ddiwrnodau hyfforddi i wirfoddolwyr, gan ddibynnu ar gyllid a’r tymor
ac yn dysgu amadnabod coed drwy’r tymhorau, adnabod planhigion, hogi offer,
sgiliau bondocio, adnabod a monitro cacwn, gweision y neidr, adar, ystlumod,
amffibiaid ac ymlusgiaid ac yn y blaen.
 
 
Eisiau cadw ar y blaen gyda’n Diwrnodau Gwirfoddoli? Anfonwch e-bost aton ni i
ymuno â’r rhestr bostio i wirfoddolwyr.
 
————————————————————————————————————————–
 

         DYDDIADAU AR Y GWEILL i 2025:

 
    • Dydd Iau 21 Awst
    • Dydd Mawrth 9 Medi
    • Dydd Sadwrn 20 Medi
    • Dydd Sul 28 September
    • Dydd Mercher 1 Hydref
    • Dydd Sadwrn 11 Hydref
    • Dydd Mercher 29 Hydref
    • Dydd Llun 10 Tachwedd
    • Dydd Sadwrn 22 Tachwedd
    • Dydd Iau 4 Rhagfyr
 
 
————————————————————————————————————————–
 
Mae pob un o’n diwrnodau gwirfoddoli’n cael ei oruchwylio gan Arweinydd
Gweithgareddau profiadol. Mae diwrnodau gwirfoddoli’n tueddi i ddechrau am
10yb gan orffen tua 3-4yp, gan ddibynnu ar y tymor, er bod croeso i chi ymuno â ni am
hanner y diwrnod yn unig.
 
————————————————————————————————————————–
Rhowch wybod i ni’ch bod chi’n dod, drwy e-bost neu ar y ffôn.
Anfonwch e-bost at volunteer@denmarkfarm.org.ukneu ffonio 01570 493358.
 
Angen mwy o wybodaeth?
e-bost at volunteer@denmarkfarm.org.ukneu ffonio 01570 493358.
 
 
Peidiwch â phoeni os nad oes unrhyw brofiad blaenorol gynnoch chi gan y
byddwn yn darparu’r holl arweiniad ac offer fydd euhangen arnoch.
Dewch â dillad awyr agored a phecyn cinio.Darperir diodydd a bisgedi. Gallwn
drefnu rhannu ceir ar gais.
 
conservation volunteering
Mae cyfleoedd gwirfoddoli eraill weithiau ar gael gan ddibynnu ar eich sgiliau.
Cysylltwch â ni os oes diddordeb gynnoch chi.
 
 

Ariennir y prosiect hwn gan gynllun y Grant Buddsoddi mewn Coetiroedd (TWIG). Mae’n cael ei ddarparu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. 

 

To top