Nawr bod y Gwanwyn o’r diwedd wedi cyrraedd, mae gennym dymor cyffrous o weithdai ar thema planhigion yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm Denmarc.
Felly os ydych chi’n hoff iawn o blanhigion ac eisiau baeddu’ch dwylo mae gennych chi amser o hyd i ymuno â ni. Ond cofiwch archebu’n fuan gan fod lleoedd yn gyfyngedig ac yn llenwi’n gyflym.
Technegau Arolwg Maes 27ain-29ain Ebrill
Sgiliau hanfodol ar gyfer astudiaethau ecolegol sylfaenol ac ar gyfer cynllunio, rheoli a monitro safleoedd neu gynefinoedd. Arweinir gan yr ecolegydd a’r fenyw planhigion Jan Martin.
Cwrs Prifysgol Aberystwyth (SELL). Ffi: £90
Garddio Naturiol 27 Ebrill, 4ydd a 12 Mai – 2 le ar ôl
Cwrs byr newydd 3 rhan yw hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn tyfu eu bwyd eu hunain mewn ffordd gynaliadwy. Mae’n addas ar gyfer dechreuwyr a garddwyr profiadol hefyd sy’n awyddus i ddyfnhau eu dealltwriaeth o brosesau naturiol. Gyda Malcolm Berry (athro a garddwr – gynt gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru)
Ffi: £45 am y 3 gweithdy neu £20 fesul gweithdy unigol
Cerflun Helygen 29/30 Ebrill a 14/15 Mai – BWCIWCH ERBYN YFORY 12 Ebrill gan fod angen archebu deunyddiau.
Cwrs i ddysgu crefft gyffrous ac amlbwrpas gwehyddu helygen. Defnyddiwch y dechneg syml i wneud cerflunwaith ar gyfer y cartref a’r ardd gyda’r artist Judy Macklin.
Ffi cwrs Prifysgol Aberystwyth (SELL): £90 / Gostyngiad ffi o £20
Eli a Hufenau Llysieuol Cartref 4ydd Mai – 3 Lle Ar ôl
Treuliwch ddiwrnod yn dysgu sut i wneud eli a hufenau llysieuol gyda’r Perlysieuydd Meddygol lleol, Christine Stephenson.
Ffi: £40 (yn cynnwys deunyddiau ar gyfer sawl pot y gallwch eu cymryd adref) Archebwch erbyn 19 Ebrill am Ostyngiad Cynnar
Lliwio Gwlân gyda Lliwiau Naturiol 11eg-12fed Mai – 4 LLE AR ÔL
Yn y gweithdy deuddydd hwn byddwch yn lliwio gwlân gyda phlanhigion sy’n hawdd dod o hyd iddynt yn yr awyr agored, ac efallai bod llawer ohonynt hyd yn oed yn tyfu yn eich gardd. Dan arweiniad y lliwiwr, y nyddwr a’r gwehydd brwd Hanne Dahl.
Ffi: £70 (yn cynnwys yr holl ddeunyddiau) Archebwch erbyn 26ain am Ostyngiad Cynnar
Os ydych chi’n byw ymhellach i ffwrdd yna gallwn gynnig amrywiaeth o lety i chi, o’n Eco Lodge hunanarlwyo i’n hystafelloedd cysgu a rennir a’n Maes Gwersylla Eco , i droi gweithdy yn ychydig ddyddiau pleserus i ffwrdd.





