Gall pob aelwyd yng Nghymru gasglu a phlannu coeden wrth i dros 50 o ganolfannau agor ledled y wlad.
Mae Fferm Denmarc yn cymryd rhan yn y fenter Fy Nghoeden, Ein Coedwig, prosiect uchelgeisiol gan Lywodraeth Cymru a Choed Cadw a fydd yn cynnig coeden i bob aelwyd yng Nghymru, yn rhad ac am ddim.

Mae Fferm Denmarc yn un o 50 o ganolfannau ledled Cymru lle gall pobl gasglu eu coeden; yn y cyfnod hwn mae 295,000 o goed ar gael i’w cael.
Mae’n dilyn addewid a wnaed gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters ym mis Rhagfyr y llynedd, y byddai pob aelwyd yng Nghymru yn cael cynnig coeden am ddim .
Mae deg rhywogaeth wahanol o goed brodorol a llydanddail ar gael i ddewis ohonynt. Y rhain yw: Cyll; Criafol; Draenen Wen; Bedwen Arian; Afal Sur; Derwen Ddigoes; Dogwood; Rhosyn y Cŵn; Masarn y Maes; ac Ysgaw.
Bydd pob coeden yn rhywogaeth frodorol, llydanddail a fydd yn tyfu’n goed bach-canolig eu maint sy’n addas ar gyfer gerddi a mannau llai, a byddant yn dod gyda chyfarwyddiadau plannu. Wrth iddynt aeddfedu byddant yn cloi carbon, yn ymladd yn erbyn effeithiau newid hinsawdd ac yn cefnogi bywyd gwyllt.
Bydd gwirfoddolwyr ar y safle, gan gynnwys aelodau o Rwydwaith Coetir Cymunedol Llais y Goediwg, yn cynghori aelodau’r cyhoedd pa un o’r rhywogaethau sydd ar gael trwy’r cynllun sydd fwyaf addas ar gyfer eu gofod a sut i ofalu am eu coeden.
Bydd hwb coed Fferm Denmarc ar agor i’r cyhoedd o ddydd Mawrth 21 Chwefror i ddydd Gwener 31 Mawrth 2023, 10am – 4pm bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Gwener.
Gweler y diweddariadau ar ein gwefan.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno â Choed Cadw, yr Ymddiriedolaeth Coedlannau yng Nghymru i gyflawni’r prosiect Fy Nghoeden, Ein Coedwig .
Wrth siarad cyn agor y canolfannau rhanbarthol, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd Lee Waters: “Mae coed yn rhaff achub i ni a’r holl fywyd anhygoel maen nhw’n ei gynnal. Ble fyddai ein hadar, pryfed ac anifeiliaid hebddyn nhw… ble fyddem ni hebddyn nhw?”
“Rwyf am i bawb yng Nghymru edrych ar ein gwefan i ddod o hyd i’ch canolfan rhoddion coed agosaf a chasglu eich coeden lydanddail am ddim. Ar y safle, bydd ein gwirfoddolwyr gwych yn barod gyda’u cyngor arbenigol i’ch helpu i ddewis y goeden gywir ar gyfer eich lle a’ch sefyllfa.
“Wrth i COP27 ddod i ben yn yr Aifft, mae ein hymdrech barhaus Tîm Cymru i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur yn hanfodol.
“Drwy dyfu coeden hardd yn eich gardd gefn eich hun, gallwch chi roi hwb i’ch cyfraniad a helpu i dyfu Cymru iach a hapus i ni a chenedlaethau’r dyfodol elwa ohoni.”
Er mwyn dod yn Gymru Net Sero erbyn 2050, mae arbenigwyr wedi cynghori bod yn rhaid i Gymru blannu 86 miliwn o goed dros y degawd nesaf.
“Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn rhan o Goed Cadw am bartneru â ni i gyflawni’r prosiect hwn ac rwy’n edrych ymlaen at weld ei effaith ar ein hamgylchedd.”
Dywedodd Natalie Buttriss, Cyfarwyddwr Coed Cadw: “Mae coed erioed wedi cynnig atebion syml a chost-effeithiol i’r heriau yr ydym i gyd yn eu hwynebu a thrwy’r fenter Fy Nghoeden Ein Coedwig, rydym yn gobeithio ysbrydoli pobl o bob cefndir, rhanbarth a chefndir i gymryd rhan, ac o ganlyniad, teimlo’n fwy cysylltiedig â’r manteision lluosog y gall coed eu dwyn.”


