£560.00
Defnyddiwch harddwch naturiol ac effaith isel fframio coed crwn a dysgwch yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer dylunio ac adeiladu eich prosiect fframio coed crwn eich hun.
8 lle ar gael
Defnyddiwch harddwch naturiol ac effaith isel fframio coed crwn i ddysgu sut i greu strwythurau sy’n amrywio o siediau a llochesau syml i’ch cartref neu ysgubor eich hun ar y cwrs fframio coed crwn pum diwrnod hwn.
Os ydych chi wedi breuddwydio erioed am adeiladu eich strwythur pwrpasol eich hun, bydd y cwrs hwn yn rhoi’r holl sgiliau angenrheidiol i chi. O dan hyfforddiant arbenigol y crefftwr Jamie Miller o Tŷ Pren, byddwch yn dysgu’r holl dechnegau sylfaenol ar gyfer dylunio ac adeiladu eich prosiect eich hun.
Bydd y cwrs hwn yn eich tywys trwy hanfodion adeiladu ffrâm goed crwn. Gan ddefnyddio offer llaw traddodiadol a thechnegau marcio i allu creu amrywiaeth o fframweithiau.
Bydd y cwrs yn cwmpasu popeth o ddewis pren, offer a dylunio hyd at godi ffrâm orffenedig.
Darperir cinio llysieuol dau gwrs organig blasus ar bob diwrnod gwaith (nodwch wrth archebu os oes gennych unrhyw ofynion dietegol arbennig).
Rhaglen y Cwrs:
Diwrnod 1: Pam coed crwn? Taith o amgylch y goetir, dewis a graddio pren
Diwrnod 2: marcio, gwaith saer
Diwrnod 3: gwaith saer
Diwrnod 4: bresio
Diwrnod 5: gorffen a chodi
Bydd angen esgidiau blaen dur arnoch ac mae croeso i chi ddod ag unrhyw offer sydd gennych ac yr hoffech eu defnyddio.
Bydd y cwrs wedi’i leoli yng Nghoetir Cymunedol Longwood, Llanfair Clydogau SA48 8NE.
Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dim Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.