Mae Ymddiriedolaeth y Ddaear a Rennir yn Fferm Denmarc yn ddeg ar hugain eleni!
Ar ddydd Sul 24 Medi 2017, rhwng 1pm a 4pm byddwn yn cynnal Dathliad Pen-blwydd yn 30 oed. Nid ein Diwrnod Agored traddodiadol yw’r digwyddiad hwn ond cyfle gwych i ddod â rhai o’r chwaraewyr allweddol yn natblygiad Ymddiriedolaeth y Ddaear a Rennir ynghyd yn Fferm Denmark i rannu ein hatgofion a’n cyflawniadau o ddeg ar hugain mlynedd yn gofalu am y darn arbennig hwn o natur.

Byddwn yn agor ein Ystafell Darganfod Bywyd Gwyllt newydd yn swyddogol. Adeilad ffrâm bren crwn syml yw’r strwythur hwn, wedi’i leoli ar ddiwedd ein Eco-Lodge hunanarlwyo . Mae’;r adeilad mewn lleoliad delfrydol gyda ffenestri’;n edrych dros y warchodfa natur a’;r orsaf fwydo adar. Bydd yr adeilad yn cynnwys offer monitro ar gyfer gwylio camerâu blychau nythu a bwydo adar yn ogystal ag adnoddau addysgol eraill. Bydd yr ardal gyfagos yn elwa o ardal fach o ddecio ar gyfer gweithgareddau bywyd gwyllt awyr agored, seddi newydd a thirlunio arall. Bydd y gofod hwn yn ein galluogi i gefnogi pobl ifanc ac eraill i ddysgu am fywyd gwyllt a’;r amgylchedd. Mae’;r prosiect hwn wedi’;i ariannu gan Ymddiriedolaeth Leol Cod Post
Yn ogystal, bydd ein garddwyr gwirfoddol profiadol ar y safle i rannu eu profiadau o’r flwyddyn dyfu, wrth iddynt hau cnydau ar gyfer y gaeaf a chynaeafu cynnyrch olaf y tymor.
Hefyd, rydym yn gobeithio cynnal rhai cyfweliadau anffurfiol gyda phobl am eu hatgofion a’u profiadau yn ystod y ‘dyddiau cynnar’.
Os ydych chi wedi plannu coed, addysgu ar gwrs, gwirfoddoli yn y swyddfa, adeiladu’r llwybr pren, gwneud blwch nythu, bod yn gyn-aelod o staff neu’n ymddiriedolwr, gweini te mewn diwrnod agored neu wedi cyfrannu/bod yn rhan o unrhyw ffordd arall, ymunwch â ni. Gwahoddwch eraill i helpu i ledaenu’r gair.
O, ac ie, bydd te a chacen pen-blwydd!
Dim tâl i ymuno â’n Dathliad Pen-blwydd yn 30 oed ond byddem yn ddiolchgar iawn am unrhyw roddion tuag at ein Hapêl Ystafell Addysg gyfredol
Os nad ydych chi’n lleol ac hoffech ddod i aros am noson neu ddwy , cysylltwch â ni ynglŷn ag opsiynau llety yn Fferm Denmark.

Mae Ymddiriedolaeth Lleol Cod Post yn elusen sy’n rhoi grantiau a ariennir yn gyfan gwbl gan chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl .
Derbyniodd ein prosiect £9,971 gan yr Ymddiriedolaeth i’n helpu i ddathlu ein Pen-blwydd yn 30 oed.