Tyfwch Eich Llysiau Eich Hun

‘Lle Llysiau o’r Dechrau’

Wedi'i bostio yn Uncategorized @cy

Dewch i’n helpu i ddatblygu gardd gegin newydd, A Veg Patch from Scratch, yn Fferm Denmark!

Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn hyfforddiant ymarferol gyda’r tiwtor Malcolm Berry yn dysgu sut i greu gardd lysiau organig.

Basged-o-Llysiau

 

Bob yn ail ddydd Sul, 10yb i 2.30yp, o Ionawr 29ain hyd at Orffennaf 3ydd:

Dyddiadau sydd i ddod (lleoedd bellach wedi’u harchebu’n llawn):

  • Dydd Sul 22ain Mai .
  • Dydd Sul 5ed Mehefin
  • Dydd Sul 19 Mehefin (Diwrnod Agored)
  • Dydd Sul 3ydd Gorffennaf

STOPIO’R WASG! DYDDIADAU YCHWANEGOL AR GYFER MEHEFIN!

Yn ogystal â dyddiadau rheolaidd y rhaglen uchod, gallwn nawr gynnig sesiynau ychwanegol ar y dyddiadau canlynol sydd ar agor i bawb fel sesiynau ‘galw heibio’:

  • Dydd Mercher 1af Mehefin
  • Dydd Mawrth 7fed Mehefin
  • Dydd Sul 12 Mehefin
  • Dydd Mawrth 14eg Mehefin
  • Dydd Mawrth 28ain Mehefin

Mae pob sesiwn yn rhedeg o 10am i 2.30pm.

Bydd cyfle gan wirfoddolwyr i ddatblygu’r ardd o’r dechrau, gan baratoi’r tir a dewis cnydau, yna plannu hadau a thyfu eginblanhigion, ac yn olaf cynaeafu eich cynnyrch. Bydd Malcolm hefyd yn gallu trafod unrhyw bynciau sydd o ddiddordeb arbennig i gyfranogwyr fel compostio, rheoli plâu, garddio naturiol ac ati.
Mae’r rhaglen yn addas i unrhyw un o ddechreuwyr llwyr, i’r rhai sydd â rhywfaint o brofiad / gwybodaeth flaenorol.

Ruby Chard

Y tiwtor:

Mae Malcolm Berry wedi bod mewn garddwriaeth broffesiynol ers 16 mlynedd, gan weithio’n bennaf gyda ffrwythau a llysiau, gan gynnwys saith mlynedd yn yr ardd ddwbl-furiog yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Mae wedi cyflwyno cyrsiau i’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol a ‘Growing the Future/ Tyfu Pobl’, ymhlith eraill, gan gynnwys Canolfan Cadwraeth Fferm Denmarc.
Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn amlddiwylliant ac annog bioamrywiaeth, ac mae ganddo erthygl wedi’i chyhoeddi ar y pwnc yn rhifyn hydref 2015 o ‘Natur Cymru’.

Beth sydd wedi’i ddarparu:
Pob offer a menig
Te/coffi a chacen

Beth i’w Ddwyn:
Dillad gwrth-ddŵr ac esgidiau glaw neu fŵts (mae gennym rai sbâr os oes angen) a phecyn cinio.

Y Gost
AM DDIM!* Ond rydym yn gofyn am flaendal o £20 i sicrhau eich lle. Bydd hwn yn cael ei ddychwelyd ar ddiwedd y rhaglen.

Sut i archebu

Anfonwch e-bost atom i volunteer@denmarkfarm.org.uk , neu ffoniwch 01570 493358.

Yna anfonwch eich siec (yn daladwy i Shared Earth Trust) i Ganolfan Cadwraeth Fferm Denmarc, Bettws Bledrws, Llanbedr Pont Steffan SA48 8PB, neu gadewch arian parod/siec i Fferm Denmarc pan fyddwch chi’n mynd heibio!

Angen mwy o wybodaeth?
E-bost: volunteer@denmarkfarm.org.uk
Ffôn: 01570 493358

*Mae hwn yn rhan o’n prosiect ‘Cynefinoedd Holistaidd’ a gefnogir o dan gynllun ‘Gwirfoddoli yng Nghymru’ WCVA, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Melyn y Dail Pot

Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd yn ein rhaglen reolaidd o wirfoddoli ym maes cadwraeth neu ein rhaglen gyrsiau helaeth gyda phynciau’n cwmpasu crefftau naturiol, ecoleg, cadwraeth a byw’n gynaliadwy sy’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn.

Neu pam na wnewch chi gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i fod y cyntaf i glywed am brosiectau a chyfleoedd newydd?

[efsbutton style=”” size=”” color_class=”” align=”left” type=”link” target=”false” title=”Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio yma” link=”http://eepurl.com/sMgSP”]

 

Funded by UK Government