Ar ôl blynyddoedd o gynllunio, negodi a chodi arian gofalus, rydym o’r diwedd ar y ffordd gyda’n llety eco newydd i ymwelwyr. Ynghyd â’r mudwyr pluog arferol yn y gwanwyn, mae Cartrefi Dyfed wedi cyrraedd Fferm Denmarc ac yn symud ymlaen â’r gwaith adeiladu ffrâm bren. Mae gwybedogion brith, teloriaid a phendduon yn canu eu pennau i ffwrdd o gwmpas tra bod sain felys llifiau a morthwylion yn atseinio o amgylch iard y Ganolfan. Cerddoriaeth i’n clustiau!
O ddifrif serch hynny – mae hyn yn cynrychioli cyfnod newydd ym mhopeth sydd ar gael yma. Bydd yr unedau llety hunanarlwyo newydd wedi’u cwblhau erbyn dechrau 2013, yn barod ar gyfer yr holl bobl ddoeth a rhyfeddol hynny sydd â’r bwriad o ymweld â Gorllewin Cymru y flwyddyn nesaf. (Ond peidiwch ag aros, os ydych chi’n barod i ddod eleni – mae llawer yn digwydd drwy gydol y gwanwyn a’r haf – gweler ein tudalen ddigwyddiadau ).
Yn ogystal â defnyddio pren o ffynonellau cynaliadwy, bydd gennym wresogi biomas, casglu dŵr glaw ar gyfer y toiledau, trydan solar a phentyrrau o inswleiddio gwlân defaid, ynghyd â nodweddion cynaliadwy eraill. Heb anghofio’r bywyd gwyllt, wrth gwrs, rydym yn bwriadu arddangos amrywiaeth o flychau yn y coed cyfagos ar gyfer ystlumod ac adar, tirlunio sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt ac ardal chwarae naturiol (ar gyfer bywyd gwyllt dynol – plant iau gyda’u rhieni!).
Rhywbeth i bawb – gobeithio eich bod chi’n cytuno. Beth am ddod i weld drosoch eich hun yn ein Diwrnod Agored rhagolwg ar ddydd Sul 23 Medi ?
Mae hyn i gyd yn bosibl drwy grant gan Gronfa Twf Mentrau Cymdeithasol Ceredigion, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion ar ran Partneriaeth Adfywio Ceredigion ac a gefnogir gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) drwy Lywodraeth Cymru.

