natur wirfoddoli

‘Byddwch yn Egnïol er Mwyn Bywyd Gwyllt’!

Wedi'i bostio yn Uncategorized @cy

Mae’r prosiect cyffrous newydd hwn yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm Denmarc newydd ddechrau ac mae’n gyfle gwych i bobl leol gymryd rhan, dysgu sgiliau newydd a helpu i wella’r warchodfa natur hon ar gyfer ei bywyd gwyllt.

Nod ‘Byddwch yn Egnïol dros Fywyd Gwyllt’ yw rheoli a gwella’r gwahanol gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt gan gynnwys y glaswelltiroedd, y gwlyptiroedd, y coetiroedd a’r gwrychoedd y gellir eu canfod ledled y warchodfa. Ar un adeg roedd Fferm Denmark yn fferm a reolwyd yn ddwys ac, 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r warchodfa natur hon bellach yn hafan i fywyd gwyllt trwy’r newidiadau yn ei rheolaeth ar gyfer cadwraeth.

Fel rhan o’r prosiect hwn, rydym hefyd yn gallu darparu rhai cyfleoedd cyffrous i wirfoddolwyr gymryd rhan a helpu i wneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn cynnal nifer o ddiwrnodau hyfforddi dros y flwyddyn nesaf, gan gynnwys y wybodaeth a’r sgiliau i helpu i reoli’r gwahanol gynefinoedd yma, yn ogystal â sut i arsylwi a chofnodi’r amrywiaeth eang o rywogaethau sy’n gwneud Fferm Denmarc yn gartref iddynt. Bydd y glaswelltiroedd yn cael eu gwella i gynyddu amrywiaeth y blodau gwyllt a’r glaswellt sy’n darparu ffynhonnell fwyd a lloches i anifeiliaid fel gwenyn, gloÿnnod byw a phryfed eraill, yn ogystal â mamaliaid bach sydd, yn eu tro, yn darparu bwyd ar gyfer tylluanod hela ac adar ysglyfaethus. Mae’r gwlyptiroedd, gan gynnwys pyllau, crafiadau a ffosydd, yn darparu cynefin hanfodol i amffibiaid gan gynnwys brogaod, llyffantod a madfallod dŵr a phryfed hardd fel gweision neidr sydd i gyd angen dŵr i allu cwblhau eu cylchoedd bywyd. Mae’r coetiroedd a’r gwrychoedd yn darparu cartref a ffynhonnell fwyd i adar, infertebratau a mamaliaid bach sydd i gyd yn chwarae rhan hanfodol yng ngwe enfawr bywyd.

gwirfoddolwyrFelly, ydych chi’n barod i ‘Fod yn Egnïol er Mwyn Bywyd Gwyllt’?!

Rydym yn cynnal ein diwrnod blasu cyntaf i wirfoddolwyr ddydd Sul 9fed Medi o 10am – 3pm . Bydd cyflwyniad i’r prosiect gan gynnwys y cyfleoedd a’r manteision o wirfoddoli gyda ni, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgaredd ymarferol ac edrych ar rai o’r bywyd gwyllt rhyfeddol sydd gennym yma ar y warchodfa. Darperir te a chacen hefyd!

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Linda ar 01570-493358 neu anfonwch e-bost ataf yn linda@denmarkfarm.org.uk. Rwy’n gweithio’n rhan-amser felly byddaf yn ateb i chi cyn gynted ag y gallaf.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Funded by UK Government