£65.00
Dysgwch am fanteision bara surdoes, gwnewch eich cychwynnwr surdoes eich hun, a dysgwch yr holl gamau i droi cychwynnwr yn dorth flasus o fara surdoes traddodiadol Almaenig a chrampets surdoes y byddwn yn eu pobi gyda’n gilydd ac yn eu blasu.
3 lle ar gael

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i gelfyddyd gwneud bara heb furumau ychwanegol (er y gallem ychwanegu rhywfaint o furum at ddiben lleihau’r amser codi er mwyn gallu pobi ein bara ar y cwrs).

Darllenwch ein telerau ac amodau cyn archebu
Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn gweithdai creadigol eraill yn Fferm Denmark hefyd.
Gweler ein calendr digwyddiadau am ein rhestr lawn.
Am lety ar y safle am bris gostyngol yn ystod y gweithdy hwn, cymerwch olwg ar ein hamrywiaeth o lety.
Mae’r holl elw o’n digwyddiadau a’n gwyliau yn cael ei roi’n ôl yn uniongyrchol i’r elusen sy’n rheoli ein gwarchodfa natur 40 erw. Diolch am eich cefnogaeth a dewch i ymweld yn fuan os gwelwch yn dda.
Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dim Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.