
Baner Werdd yn chwifio eto yng Nghanolfan Cadwraeth Fferm Denmarc .
Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol ar gyfer parc neu ofod gwyrdd o safon.
Mae fferm Denmarc wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd nodedig i gydnabod ei safonau amgylcheddol uchel, glendid, diogelwch a chyfranogiad cymunedol.
Mae 223 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned ledled y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.
Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n rhedeg y cynllun gwobrau. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydym wrth ein bodd yn gweld nifer record newydd o 223 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned yng Nghymru wedi cyflawni statws y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o wirfoddolwyr.
“Mae’r safleoedd hyn, sy’n chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol cymunedau ledled Cymru, bellach yn cael eu cydnabod ymhlith y gorau yn y byd, ar ôl bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol i ennill statws Cymuned y Faner Werdd. Llongyfarchiadau!”
Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru
