Hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Diffibriliwr Cymunedol AM DDIM

Medi 17, 2026
10:00 am - 1:00 pm

£0.00

Bydd y sesiwn hyfforddi tair awr hon yn rhoi i gyfranogwyr sgiliau achub bywyd ymarferol a’r hyder i ymateb mewn argyfwng, gan gynnwys CPR, defnyddio diffibrilwyr cymunedol, adnabod trawiadau ar y galon a thechnegau achub bywyd sylfaenol. Mae’n addas i oedolion o bob oedran ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

13 lle ar gael

Bydd y sesiwn hyfforddi tair awr hon yn rhoi i gyfranogwyr sgiliau achub bywyd ymarferol a’r hyder i ymateb mewn argyfwng. Ymhlith y pynciau a gwmpesir mae:
  • Adnabod ac ymateb i ataliad ar y galon
  • CPR (Adfywiad Cardio-pwlmonaidd)
  • Sut i ddefnyddio diffibrilwyr cymunedol (AEDs)
  • Argyfyngau tagu
  • Delio â dioddefwr anymwybodol
  • Technegau Heartstart sylfaenol ac achub bywyd
  • Beth i’w wneud wrth aros i’r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae’r sesiwn yn addas i oedolion o bob oedran ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.

Ein nod yw helpu i gynyddu nifer y bobl yn ein cymunedau sy’n teimlo’n hyderus i weithredu mewn argyfwng meddygol ac sy’n gwybod sut i ddefnyddio diffibrilwyr y pentref os oes angen.

Funded by UK Government

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dim Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.