Daeth y Nadolig yn gynnar i Fferm Denmarc y llynedd, ar ffurf grant o £17,627 a ddyfarnwyd gan Gronfa Gwirfoddoli yng Nghymru tuag at ein prosiect newydd ‘Cynefinoedd Holistaidd’ . Yn ogystal â chefnogi gwirfoddolwyr i ofalu am ein gwarchodfa natur 40 erw, bydd y cyllid hefyd yn ein galluogi i ddatblygu gardd gegin – rhywbeth yr ydym wedi bod eisiau ei wneud ers peth amser.
Bydd y sesiynau ymarferol o Chwefror i Fehefin – ‘Llety Llysiau o’r Dechrau’ – yn darparu hyfforddiant a phrofiad i 10 o wirfoddolwyr dan arweiniad arbenigol Malcolm Berry, sydd wedi bod mewn garddwriaeth broffesiynol ers 16 mlynedd ac sydd â diddordeb arbennig mewn amlddiwylliant ac annog bioamrywiaeth.
Mae’r 10 lle gwirfoddol craidd eisoes yn llawn, ond bydd yna hefyd ychydig o sesiynau canol wythnos yn ddiweddarach yn y Gwanwyn i’r rhai a hoffai ddod draw i’n helpu gyda’r fenter gyffrous newydd hon. Anfonwch e-bost at volunteer@denmarkfarm.org.uk os hoffech ymuno â ni.
Os nad garddio yw eich peth chi, bydd ein cyllid newydd hefyd yn darparu digon o gyfleoedd ar gyfer gwaith cadwraeth ymarferol. Fel arfer, bydd diwrnodau gwirfoddoli yn rhedeg bob yn ail ddydd Sadwrn a dydd Mawrth gan ddechrau am 10am ac yn gorffen tua 4pm – neu gymaint o amser ag y gallwch ei sbario. Dyma ein dyddiadau nesaf:
Dydd Mawrth 2 Chwefror, Dydd Sadwrn 6 Chwefror, Dydd Mawrth 16 Chwefror , Dydd Sadwrn 20 Chwefror
Gweler ein tudalen ‘Gwirfoddoli’ am ragor o wybodaeth a dyddiadau yn y dyfodol. Bydd y tasgau’n cynnwys clirio drain duon a mieri, torri coedlannau, cynnal a chadw llwybrau a gatiau yn ogystal â helpu gyda’n rhaglen monitro bywyd gwyllt – popeth o bathewod ac ystlumod i wyfynod a gloÿnnod byw. Croeso i bawb, nid oes angen profiad blaenorol. Darperir diodydd a bisgedi – dim ond cinio ac offer awyr agored fydd angen i chi ddod â nhw.
Yn ogystal â diwrnodau gwaith cadwraeth, bydd nifer o sesiynau hyfforddi gwirfoddolwyr hefyd. Mae dydd Gwener 19 Mawrth yn ddiwrnod hyfforddi am ddim mewn Rheoli Helyg a Choedlannu yn seiliedig ar ein System Trin Ecosystem Gwlyptiroedd (WET) . Archebion ymlaen llaw yn unig – trwy ein gwefan .
Beth bynnag yw eich addunedau ar gyfer 2016, boed ar gyfer iechyd, hapusrwydd neu gyfoeth, efallai y gall dod yn wirfoddolwr yn Fferm Denmarc eich helpu i gyflawni’r rhain. Ni allwn addo eich gwneud yn gyfoethog, ond rydym yn gobeithio rhoi cyfoeth o wybodaeth, sgiliau ac awyr iach i chi!


Daeth y Nadolig yn gynnar i Fferm Denmarc y llynedd, ar ffurf grant o £17,627 a ddyfarnwyd gan