Baner Werdd yn chwifio ar Fferm Denmarc

Wedi'i bostio yn Bioamrywiaeth, Bywyd gwyllt, Uncategorized @cyTagiwyd

darllen yn y Gymraeg …

Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol ar gyfer parc neu ofod gwyrdd o safon.

Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmarc wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd nodedig i gydnabod ei safonau amgylcheddol uchel, glendid, diogelwch a chyfranogiad cymunedol.

Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmarc wedi bod yn adnodd cymunedol gwerthfawr ers y 37 mlynedd diwethaf. Mae bywyd gwyllt wrth wraidd popeth a wnawn. Ein nod yw helpu pobl i ailgysylltu â natur a gwella bioamrywiaeth yn ein gwarchodfa natur 40 erw. Mae teuluoedd a chariadon natur, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn mwynhau Fferm Denmark. Dewch i weld drosoch eich hun… os ydych chi’n caru natur yna byddwch chi wrth eich bodd â Fferm Denmarc!

Dywedodd Mara Morris, Rheolwr Ymgysylltu yn Fferm Denmark:

“Mae ennill Gwobr y Faner Werdd yn gydnabyddiaeth bwysig o’n holl wirfoddolwyr anhygoel a’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gadw’r warchodfa natur yn hygyrch i’r gymuned drwy gydol y flwyddyn. Gyda’u cefnogaeth gallwn barhau i reoli’r safle arbennig hwn, cynyddu bioamrywiaeth a galluogi pawb i fwynhau’r awyr agored er mwyn gwella iechyd a lles.”

Gwirfoddolwyr yn dathlu gwobr y Faner Werdd

Mae 199 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned ledled y wlad wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i dderbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.

Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sy’n cael eu rheoli’n dda mewn 20 o wledydd ledled y byd.

Yng Nghymru, Cadwch Gymru’n Daclus sy’n rhedeg y cynllun gwobrau. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym wrth ein bodd yn gweld nifer record newydd o 199 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned yng Nghymru wedi cyflawni statws y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o wirfoddolwyr.

“Mae’r safleoedd hyn, sy’n chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol cymunedau ledled Cymru, bellach yn cael eu cydnabod ymhlith y gorau yn y byd, ar ôl bodloni’r safonau uchel sy’n ofynnol i ennill statws Cymuned y Faner Werdd. Llongyfarchiadau!”

Ymwelwyr yn mwynhau’r dolydd blodau gwyllt yn Fferm Denmark ac yn darganfod beth sy’n byw yn y pwll.

Mae rhestr lawn o enillwyr y gwobrau i’w gweld ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

Funded by UK Government

Mae'r prosiect hwn wedi'i ariannu'n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a weinyddir gan dim Cynnal y Cardi ar ran Cyngor Sir Ceredigion.