Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus wedi cyhoeddi ennillwyr Gwobr Y Faner Werdd eleni – y marc rhyngwladol o barc neu fan gwyrdd o safon.
Mae Fferm Denmark wedi ennill Gwobr Gymunedol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o’i ymdrechion amgylcheddol, glendid, diogelwch a chyfranogiad y gymuned.
Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark wedi bod yn adnodd cymunedol gwerthfawr dros y 37 mlynedd diwethaf. Mae bywyd gwyllt wrth wraidd popeth a wnawn. Ein nod yw helpu pobl i ailgysylltu â byd natur a gwella bioamrywiaeth. Mae teuluoedd a phobl sy’n caru natur, myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol yn mwynhau Fferm Denmark. Dewch i weld â’ch llygaid eich hun … os ydych chi’n gwirioni ar fyd natur, yna byddwch chi wrth eich bodd â Fferm Denmark!
Dywedodd Mara Morris, Rheolwr Ymgysylltu Fferm Denmark:
“Mae ennill Gwobr y Faner Werdd yn gydnabyddiaeth bwysig o’n holl wirfoddolwyr anhygoel a’r gwaith maen nhw’n ei wneud i gadw’r warchodfa natur yn hygyrch i’r gymuned trwy gydol y flwyddyn. Gyda’u cefnogaeth nhw, gallwn barhau i reoli’r safle arbennig hwn, cynyddu bioamrywiaeth, a galluogi pawb i fwynhau’r awyr agored er mwyn gwella iechyd a lles.”
Gwirfoddolwyr yn dathlu Gwobr y Faner Werdd
Mae 199 o fannau gwyrdd wedi eu rheoli gan y gymuned wedi cyrraedd y safon uchel sydd ei hangen i ennill Baner Werdd Gymunedol.
Bellach yn ei thrydydd degawd, mae’r Faner Werdd yn cydnabod parciau a mannau gwyrdd sydd wedi eu rheoli’n dda, mewn 20 o wledydd ar draws y byd.
Yng Nghymru, mae’r cynllun gwobrwyo yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Y Faner Werdd i Cadwch Gymru’n Daclus:
“Rydym wrth ein bodd i weld bod y nifer fwyaf erioed, sef 199 o fannau gwyrdd a reolir gan y gymuned yng Nghymru, wedi cyflawni statws Y Faner Werdd, sydd yn dangos ymroddiad a gwaith caled cannoedd o wirfoddolwyr.
“Mae’r safleoedd hyn, sydd yn chwarae rôl hanfodol yn lles corfforol a meddyliol cymunedau ledled Cymru, bellach yn cael eu cydnabod i fod gyda’r gorau yn y byd, wedi bodloni’r safonau uchel sydd yn ofynnol i gyflawni statws Baner Werdd Gymunedol. Llongyfarchiadau!”
Ymwelwyr yn mwynhau’r dolydd blodau gwyllt ar Fferm Denmark ac yn darganfod beth sy’n byw yn y pwll. |
Mae rhestr lawn o’r enillwyr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.keepwalestidy.cymru