Cyrsiau Cadwraeth
Mae ein cyrsiau cadwraeth yn darparu ar gyfer gweithwyr proffesiynol cadwraeth a rheoli tir, tirfeddianwyr, naturiaethwyr, myfyrwyr a grwpiau coleg – unrhyw un sydd â diddordeb brwd yn yr amgylchedd, cefn gwlad a’i fywyd gwyllt.
Caiff ein cyrsiau hyfforddi eu cyflwyno gan diwtoriaid, ecolegwyr a gweithwyr proffesiynol cadwraeth profiadol iawn.
Mae llawer o’n cyrsiau’n cael eu cynnal mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes (SELL) Prifysgol Aberystwyth.
Gallwch weld eu rhestr lawn o gyrsiau yn:
http://www.aber.ac.uk/cy/sell/lifelong-learning/ .
I glywed am gyrsiau sydd ar ddod, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr:
“Mae’r cwrs pryfedyddiaeth wedi helpu i gynyddu fy sgiliau adnabod pryfed ac wedi rhoi’r hyder i mi ehangu fy nysgu. Roedd y cwrs yn ardderchog ac yn llawn pryfed gwych. Mae Fferm Denmarc yn warchodfa bywyd gwyllt wych gyda chyfleusterau rhagorol – byddaf yn dod eto. Profiad 100% gwerth chweil”