Read in English …
Sefydlwyd ein rhiant elusen, Ymddiriedolaeth Shared Earth, ym 1987 mewn ymateb yn uniongyrchol i’r dirywiad cenedlaethol o ran cynefinoedd bywyd gwyllt a bioamrywiaeth tir amaeth. Fel llawer o ffermydd eraill, roedd Fferm Denmark wedi’i dwysáu fesul cam ac roedd ei chaeau rhygwellt a’i gwrychoedd moel yn nodweddiadol o ardaloedd eang o dir pori.
Ein nod oedd gweld a oedd modd gwrthdroi’r broses yma o ddirywio heb fewnbynnau na chostau cyfalaf sylweddol a monitro pa mor gyflym ac i ba raddau y byddai bywyd gwyllt yn dychwelyd. Buon ni’n sefydlu system bori fwy traddodiadol gan ddefnyddio gwartheg yn hytrach na defaid, yn dechrau cynaeafu gwair, cau draeniau caeau, ymatal rhag defnyddio’r rhan fwyaf o fewnbynnau gwrtaith ac yn ffensio gwrychoedd oedd wedi’u gorbori, nentydd a ffosydd i helpu i ‘gicdanio’ prosesau naturiol.
![]() |
![]() |
Mae’r canlyniadau wedi bod yn syfrdanol:
- ym 1985 dim ond 15 o rywogaethau adar a fu’n nythu ar y fferm, ond bellach mae 46 o rywogaethau’n bridio, gyda chyfanswm o dros 200 o barau ar ddim ond 40 o erwau;
- mae caeau lle arferai rhygwellt dyfu’n bennaf bellach yn gyforiog o flodau, gweiriau a hesg, gyda’r weirglodd fwyaf amrywiol yn cynnwys dros 100 o rywogaethau;
- mae’r llyn a’r pyllau bellach yn cynnal dros 14 o rywogaethau gweision neidr a mursennod sy’n bridio – amrywiaeth drawiadol i orllewin Cymru;
- mae poblogaethau mawr o famaliaid bach, gloÿnnod ac infertebrata’r ddaear wedi dychwelyd i’r gweirgloddiau a’r porfeydd.
Rydyn ni bob amser yn ddiolchgar am wirfoddolwyr newydd i’n helpu i reoli ein safle ac Ymddiriedolwyr gwirfoddol i ymuno â bwrdd Ymddiriedolaeth Shared Earth. Cysylltwch â ni os hoffech gael gwybod mwy.