Conservation Centre with Eco-friendly Holidays, Campsite, Nature Trails & Courses in West Wales

Subscribe to our blogroll

Fferm Denmark – Hanes

environmental impact assessmentRead in English

Hyd y gwyddon ni – ac yn anarferol i’r ardal hon – nid oedd enw Cymraeg ar Fferm Denmark erioed. Sefydlwyd y fferm rywbryd rhwng 1799 a 1819 gan John Jones, Cymro lleol. Roedd Mr Jones yn byw yn Llundain ar y pryd, ar neu yng nghyffiniau Denmark Hill (sy’n dal i fodoli heddiw).

Ein cred yw, ar ôl iddo wneud ei ‘ffortiwn’ yn Lloegr, dychwelodd Mr Jones i’w famwlad hoff i ddechrau fferm. Mae pobl leol yn cyfeirio ati’n syml fel ‘Denmark’.

Bu Dai Jones (Argraffwyr Cambrian, Aberystwyth) yn cofio pennill bach am ddigwyddiad  ar Fferm Denmark tua 150 o flynyddoedd yn ôl. Dyma fo fel cafodd ei adrodd gan ei dad ’slawer dydd. Fe’i hysgrifennwyd gan fardd o’r teulu Jenkins yn Nhregaron, yn ewythr, y credir,  i’r crwydryn enwog, Joseph Jenkins, Ty’ndomen, Tregaron.  

Yn Denmarc Farm mae Spill yn byw
A’r gwaethaf dyn a greodd Duw,
Aeth un o’r da i gae ŷd
A thyngodd y diawl fod nhw yno i gyd.

Mae’n dyddio o’r amser cyn ffensys pan delid plant a phobl ifainc i gadw’r gwartheg i ffwrdd o’r cae ŷd. Yn ôl yr hanes, syrthiodd rhyw fachgen i gysgu ac fe’i daliwyd gan rywun o’r enw Spill (o Fferm Denmark). Rhaid ei fod wedi cael uffern o ffrae oherwydd iddo lunio’r pennill bach pert yma sydd wedi aros cyhyd ar gof a chadw’r bobl leol a hyd y gwyddon ni sydd heb ei gofnodi yn unman.

Rydyn ni’n dechrau rhoi at ei gilydd fwy o hanes Fferm Denmark ac yn ddiweddar rydyn ni wedi clywed gan Eluned Kemp, nith Tom a Hilda Davies a fu’n byw ac yn ffermio yma rhwng 1933 a 1967. Yn ôl Eluned, “Rwy’n galler cofio moch, eidon, godro ac ychydig o ddefaid, twr o ieir maes, patshys mawr o lysiau, caeau bresych, madarch bendigedig mewn un cae a choed cyll yn y lôn, pwmp i godi dŵr o’r ffynnon a’r hyn a fyddai’n cael ei ddisgrifio orau fel geudy – dim tŷ bach dan do. Bu farw Yncl Tom ac Anti Hilda’n ddi-blant, y naill yn agos iawn ar ôl y llall. Mi wnes i hala fy holl wyliau ysgol yn Fferm Denmark fel plentyn a dyma ran fawr o bwy ydw i. Mae ’da fi gwmint o atgofion melys o’r lle. Mae hi ar gof a chadw am byth ’da fi.”

Am ddetholiad o hen ffotograffau o Fferm Denmark, cliciwch yma

Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth arall neu ffotograffau sy’n ymwneud â Fferm Denmark, bydden ni wrth ein boddau clywed gynnoch chi.

To top