Conservation Centre with Eco-friendly Holidays, Campsite, Nature Trails & Courses in West Wales

Subscribe to our blogroll

Cyrsiau a Digwyddiadau

Read in English …

Cliciwch yma am wybodaeth am COVID-19, Telerau ac Amodau a mwy o wybodaeth. Ychwanegir yn rheolaidd at ein rhaglen o gyrsiau a gweithdai. Os na allwch weld rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, cysylltwch â ni ar bob cyfrif neu daliwch ati i gadw llygad ar y dudalen yma am ddiweddariadau. 

Talebion Cyrsiau

Anrhegion unigryw i rywun arbennig yn eich bywyd. Beth am brynu profiad i’w gofio iddo/iddi, cyfle i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl o’r un anian. O £15…

NODIADAU

Archebu: Oni nodir fel arall, Cyrsiau Canolfan Gadwraeth Denmark Farm yw’r rhan fwyaf o gyrsiau. Archebwch ar-lein drwy glicio ar y cwrs o’ch dewis ac wedyn archebu lle/oedd a thalu neu anfonwch e-bost i info@denmarkfarm.org.uk / ffôn 01570 493358.

Gwneir yr holl archebion ac ymholiadau ar gyfer yr Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes, Prifysgol Aberystwyth, yn uniongyrchol drwy’r Ysgol. Gweler  https://www.aber.ac.uk/en/lifelong-learning/ / ffôn 01970 621580.

Cedwir lleoedd ar gyrsiau Canolfan Gadwraeth Fferm Denmark unwaith i’r tâl cyflawn gael ei dderbyn.

Oni sicrheir y lleiafswm angenrheidiol o gyfranogwyr o fewn 2 wythnos i’r dyddiad dechrau, mae’n bosib y bydd cyrsiau’n cael eu diddymu neu eu had-drefnu. Lle mae pob lle wedi’i archebu ar gwrs, gallwn dderbyn enwau pellach ar gyfer rhestr wrth gefn rhag ofn i rywun ganslo. Os byddwn yn canslo cwrs am unrhyw reswm (e.e. peidio â chyrraedd y lleiafswm angenrheidiol o gyfranogwyr neu salwch staff), byddwn yn ad-dalu’ch ffi’n llawn neu’n cynnig credyd i chi am ddigwyddiad arall.

Canslo archebion: Os oes angen i chi ganslo’ch lle, cysylltwch â ni cyn gynted ag y bo modd. Os ydych yn canslo 4 wythnos neu ragor cyn dechrau’r cwrs byddwn yn cadw £20 i dalu ein costau gweinyddu. Gallwn godi’n llawn os ydych yn canslo o fewn 4 wythnos i ddyddiad dechrau’r cwrs oni allwn ni lenwi’r lle o restr wrth gefn neu os yw amgylchiadau arbennig yn berthnasol. Cadwn yr hawl i benderfynu a yw’r sefyllfa olaf yma’n gymwys.

COVID-19: Cynhelir pob cwrs a gweithdy yn unol â rheoliadau diogelwch COVID-19 ar y pryd. Peidiwch â mynychu’r ganolfan os ydych yn hunanynysu am unrhyw reswm neu os ydych ar hyn o bryd yn byw mewn ardal lle y ceir cyfyngiadau COVID ychwanegol. Bydd nifer y cyfranogwyr yn llai i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol effeithiol. Efallai y bydd angen addasu neu ohirio ar fyr rybudd.

Amserau dechrau: Yr amserau a nodir yw’r union amser y bydd y cyrsiau’n dechrau. Dylech gyrraedd 15 i 30 munud cyn yr amser a nodir os hoffech ddiod boeth ymlaen llaw.

Cinio/lluniaeth: Oni nodir bod cinio wedi’i gynnwys, dewch â phecyn cinio. Darperir te a choffi yn ystod toriadau.

Oedran: Oni nodir fel arall, mae pob cwrs yn addas i gyfranogwyr 16+. Ar rai cyrsiau crefftau croesewir pobl ifainc 13 – 15 oed yng nghwmni rhiant neu warcheidwad. Ymholwch.

Llety:  Mae Eco-lodj hunanddarpar, ystafelloedd cysgu i’w rhannu ac eco-wersylla i gyd ar gael ar Fferm Denmark.

To top