Mae popeth yn gysylltiedig â’i gilydd: heb yr holl gysylltiadau rhwng systemau naturiol a dynol, ni fyddai ein byd yn gweithio.
Yng Nghanolfan Gadwraeth Fferm Denmark, ein nod yw tynnu sylw at y berthynas rhwng pobl a natur, gan ystyried gwerth ac amrywiaeth bywyd a thirweddau.
Ecoleg yw’r enw ar yr astudiaeth o’r math yma o berthynas a’i bioamrywiaeth gysylltiedig, pwnc rydyn ni’n ei werthfawrogi i’r eithaf ac sy’n allweddol i’n gwaith i gadw a gwella’r safle a’i gyffiniau a phrosiectau eraill rydyn ni’n ymwneud â nhw.
Nid yw systemau naturiol yn sefydlog – dros y blynyddoedd mae’r safle wedi datblygu o dir amaeth yn canolbwyntio ar gynhyrchu anifeiliaid i safle o werth mawr i gadwraeth, gyda choetiroedd, gweirgloddiau blodau gwyllt a nifer helaeth o amffibiaid, adar nythu a gwahanol fathau o bryfed.
Ac mae’r newidiadau’n parhau – mae ein coetiroedd yn aeddfedu, mae ein gweirgloddiau’n dod yn fwyfwy amrywiol ac rydyn ni’n cyflwyno elfennau newydd, fel system trin dŵr y gwlyptiroedd.
Rydyn ni’n dysgu mwy gan ein safle ac amdano drwy fonitro a’r cyrsiau rydyn ni’n eu rhedeg, gan adeiladu ar ein dealltwriaeth o sut gallwn barhau i reoli’r tir i’w droi’n safle sy’n fwy gwerthfawr byth i bobl, planhigion ac anifeiliaid.